Telesgop Pegwn y De

Telesgop Pegwn y De
Telesgop Pegwn y De yn Nhachwedd 2009
LleoliadPegwn y De, dim gwerth
Cyfesurynnau89°59′22″S 45°00′00″W / 89.9894°S 45°W / -89.9894; -45Cyfesurynnau: 89°59′22″S 45°00′00″W / 89.9894°S 45°W / -89.9894; -45
Uchder2.8 cilometr
AdeiladTachwedd 2006–Chwefror 2007 (Tachwedd 2006–Chwefror 2007)
Defnydd cyntaf16 Chwefror 2007
Math o delesgopTelesgop Gregoraidd[*], radio telescope[*], cosmic microwave background experiment[*]
Diamedr10.0 metr, 1 metr
Arwynebedd y casglwr78.5 metr sgwâr
Gwefanpole.uchicago.edu

Telesgop 10 metr o ddiamedr yw Telesgop Pegwn y De a leolwyd yng Ngorsaf Amundsen–Scott ym Mhegwn y De (Antartica). Cyfeirir ato'n aml gyda'r byrnod SPT (sef The South Pole Telescope). Mae wedi'i greu i gofnodi un rhan o'r spectrwm electromagnetig sef microdonnau gwan cefndirol o'r gofod (cosmic microwave background, neu CMB) sy'n canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r sbectrwm sydd rhwng microdonnau, y 'tonnau milimetr' hynod uchel a'r tonnau is-filimetrau (ymbelydredd terahertz neu submillimeter-waves).[1]

Cwbwlhawyd yr astudiaeth cyntaf yn Hydref 2011, pan ganfyddwyd galaethau pell eitha mawr. Gosodwyd camera newydd yn y telesgop ar ddechrau 2012, camera llawer mwy senstitif, gyda chydraniad uwch, er mwyn mesur polareiddiad y golau a oedd yn treiddio i fewn iddo. Datblygwyd y camera hwn er mwyn mesur y Modd-B (neu'r cydran "Curl") o'r CMB a bolareiddiwyd.[2]

Cydweithredwyr o flaen Telesgop Pegwn y De.

Mae'r seryddwyr sy'n ymwneud â'r Telesgop yn dod o nifer o wledydd, gan gynnwys Prifysgol Chicago, Prifysgol Califfornia, Berkeley, Prifysgol Case Western Reserve, Harvard/Arsyllfa Astroffiseg y Smithsonian, Prifysgol Colorado-Boulder a phrifysgol McGill, Illinois (yn Urbana-Champaign), California yn Davis, California, Ludwig Maximilian yn Munich, Labordy Cenedlaethol Argonne a Sefydlaid Safonnau a Thechnoleg yr Unol Daleithiau.

Caiff y Telesgop ei ariannu gan Sefydliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, UDA.

  1. J. E. Carlstrom. "The 10 Meter South Pole Telescope". arXiv:0907.4445.
  2. McMahon, J. (2001). "SPTpol: an instrument for CMB polarization". AIP Conf. Proc. 1185: 511–514. http://proceedings.aip.org/resource/2/apcpcs/1185/1/511_1.[dolen farw]

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy